fbpx

Croeso i Gwlad a Pharc Hamdden Meadow Springs

Mae Gwlad a Pharc Hamdden Meadow Springs yng nghefn gwlad hyfryd y Canolbarth yn cyfuno cyfleusterau moethus a chroeso cynnes Cymreig!

Book Now

Set in one of the most stunning and beautiful areas of Mid Wales, the 40 acre country & leisure park is set within the beautiful Trannon Valley.

Amdanom ni

Pobl leol sy’n rhedeg Meadow Springs ac maen nhw’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ers blynyddoedd lawer. Mae’r profiad lleol hwn, ynghyd â chariad at roi profiad rhagorol i’n cwsmeriaid, yn golygu ein bod yn gwybod am yr holl gyffyrddiadau bach sy’n gwneud gwyliau’n arbennig o bleserus – ac yn ddidrafferth.

P’un a ydych chi wedi treulio pob haf yn crwydro, neu’n dechrau arni’n dawel bach, gallwch greu eich profiad gwyliau delfrydol, yma yn Gwlad a Pharc Hamdden Meadow Springs.

Cyfleusterau

Dyma rai yn unig o’r pethau y gallwch edrych ymlaen atyn nhw pan fyddwch chi ar eich gwyliau’n crwydro Cymru yn Gwlad a Pharc Hamdden Meadow Springs

Cyfleusterau pum seren

Wedi’u cynllunio’n unswydd er lles eich cysur chi a’ch teulu

Lleoliad hardd yng nghefn gwlad

Gyda golygfeydd i’r pellter dros y bryniau a’r dyffrynnoedd gwyrdd

Dewis o safleoedd

Pob un â gwasanaethau wedi’u cysylltu

Bar croesawgar a bwyty sy’n gweini bwyd cartref lleol

Ar agor yn hwyr, rhan fwya o ddyddiau

Man chwarae

A mannau gweithgareddau i’r plant

Cyfleusterau sy’n addas

i gŵn gan gynnwys maes ymarfer pwrpasol

Llwybrau beicio

A llwybrau natur

Teithiau cerdded hardd ar draws gwlad yn cychwyn o’r ganolfan ei hun

Gyda bron i 4 milltir o lwybrau ar dir y ganolfan

½ milltir o bysgota preifat ar yr afon

pysgota preifat ar yr afon

Cyfleusterau hwylus

A staff cyfeillgar sydd wedi’u hyfforddi i helpu’n gwesteion i gyd

Campsite With Pub Nearby, Caravan Park Wales, Holiday Parks Wales

Y Gyrchfan

Hyn i gyd, ynghyd â’n lleoliad syfrdanol mewn man sydd heb ei ddifetha yng nghanol y Canolbarth a dim ond 45 munud o’r arfordir hardd.

Edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Meadow Springs a’r arlwy sydd ar gael a chysylltwch â ni os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei wybod.